
Wrth brynu carafán wyliau am y tro cyntaf, ychydig iawn o wybodaeth sydd gan lawer o bobl ynglyn â'r hyn y dylid ei wneud. Mae gennym ni lawer iawn o brofiad yma yng Ngharafanau Roy Kellett i'ch helpu chi, ac rydyn ni wedi llunio'r canllawiau yma i wneud y broses mor hawdd â phosib.
Cam 1: Ymweld â Dosbarthwyr Carafanau Roy Kellet!
Yn gyntaf, fe fyddai'n syniad da iawn i chi ymweld â Charafanau Roy Kellet. Wrth gael sgwrs anffurfiol gyda'n Tîm Gwerthu fe allwch chi benderfynu beth rydych chi ei eisiau a'r swm y gallwch chi ei fforddio. Gallwch gasglu llawlyfrau gwyliau a gwybodaeth am y carafanau sydd ar gael. Gallwch hyd yn oed gael golwg ar ambell un i gael gwell syniad o feintiau, mathau ac opsiynau y gallwch ddewis ohonynt. Mae gennym gronfa ddata fawr o barciau sydd ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i'r parc iawn yn ogystal â dewis helaeth o lawlyfrau parciau i fynd gyda chi. Rydyn ni addo na fydd raid i chi brynu dim!
Cam 2: Lle Hoffech Chi Fod?
Y cam pwysig nesaf yw penderfynu ym mha ran o Gymru yr hoffech chi osod eich carafán wyliau. Yn gyntaf rydyn ni'n argymell eich bod yn ystyried y pellter a'r amser mae'n gymryd i deithio yno a pha gludiant cyhoeddus sydd ar gael os nad oes gennych chi gar. Hefyd ystyriwch y math o gyfleusterau yr hoffech fod ar gael yn lleol. Fyddai'n well gennych chi fod wrth ymyl traeth; neu gael golygfeydd gwych o Ddyffrynnoedd Cymru neu fod wrth ymyl ffeiriau a siopau? Yn ffodus mae nifer o wahanol leoliadau a chyfleusterau ar gael yng Nghymru fydd yn apelio at wahanol bobl.
Cam 3: Dod o Hyd i Barc Gwyliau
Ar ôl dewis lleoliad, mae angen dewis parc carafanau. Y prif bethau i'w hystyried wrth ddewis parciau carafanau yw cyfleusterau a ffioedd blynyddol.
Ydych chi eisiau siop, clwb neu bwll nofio ar y safle? Ydych chi eisiau gwyliau mewn llecyn diarffordd ar barc bach, tawel? Mae'r rhan fwyaf o barciau carafanau wedi'u graddio naill gan y bwrdd twristiaeth lleol neu gymdeithas fasnach. Mae'r graddau'n dibynnu ar gynllun, tirlun ac awyrgylch, yn ogystal â chyfleusterau.
Os mai'r gost yw'r ystyriaeth bennaf, mae angen i chi edrych ar ffioedd blynyddol fel rhent tir, trethi a thâl gwasanaeth e.e. nwy, dwr a thrydan. Beth sydd wedi'i gynnwys a heb ei gynnwys? Yn ogystal â ffioedd blynyddol, mae pob parc carafanau'n codi tâl am osod y garafán yn y lle cyntaf ac am ei chysylltu hi. Mae hyn yn cynnwys y costau o osod a lefelu eich cartref gwyliau newydd: cysylltu'r garafán wyliau â gwasanaethau'r safle a'i chael yn barod i'w defnyddio. Mae costau am osod a chysylltu'n gallu amrywio'n fawr a gallant gynnwys pethau ychwanegol fel ferandas, erialau teledu a larymau. Mae'n bwysig penderfynu beth hoffech chi ei gael a faint gallwch chi ei fforddio!
Cam 4: Dewis Eich Carafán Wyliau
Yn olaf ar ôl i chi ddewis pa barc sydd orau gennych chi a sicrhau safle, fe fyddwch chi'n gallu dewis y cartref gwyliau iawn.
Y prif ystyriaethau o bosib yw faint o aelodau sydd yn eich teulu a faint o lofftydd y byddwch eu hangen; sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o unrhyw olygfa neu feranda; ystyried pa mor aml mae eich parc carafanau'n agored a'r angen am wres canolog a gwydr dwbl.
Nodwch: Gan fod maint safleoedd yn amrywio, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw uchafswm hyd a lled eich carafán!
Ar ôl llunio rhestr o'r pethau sylfaenol yr ydych eu hangen, yna gallwch chi ddewis o blith bob math o wahanol steiliau, cynlluniau a lliwiau sydd ar gael ar ein Safle Arddangos.
Dal ddim yn siwr? Peidiwch â phoeni. Fe all Tîm Gwerthu Carafanau Roy Kellett roi help a chyngor i chi gyda'r holl wybodaeth uchod. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan!
| Contact Details |
|
Telephone: 01745 350043 Facsimile: 01745 355503 Email: enquiries@roykellettcaravans.com |
| Post |
|
Roy Kellett Caravan Distributors Towyn Road, Towyn Abergele, Conwy LL22 9NW Click here for a location map from MultiMap. |
| Opening Hours |
|
Open 7 days a week, except Christmas and New Year Weekdays: 9am – 5pm Weekends: 9.30am – 5pm |